Cyfnod clo

Cyfnod clo
Arwydd ddwyieithog COVID-19 yn Aberystwyth; Ebrill 2020
Enghraifft o'r canlynolcyrffiw, ystad o argyfwng, clofa, non-pharmaceutical intervention Edit this on Wikidata
Mathclofa Edit this on Wikidata
Dyddiad2020 Edit this on Wikidata
Rhan oadwaith i bandemig COVID-19, 2019-20 Edit this on Wikidata
DechreuwydIonawr 2020 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyngor gan Lywodraeth Cymru parthed y clo bach (neu'r 'clo tân'): 23 Hydref - 9 tachwedd 2020.

Cyfnod Clo yw'r term a ddefnyddir yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru i ddisgrifio'r cyfnodau a'r mesurau i reoli symudiadau pobl rhag lledu'r feirws.[1] Erbyn mis Ebrill 2020, roedd oddeutu hanner poblogaeth y byd mewn cyfnod clo, gyda mwy na 3,9 biliwn o bobl mewn dros 90 o wledydd neu diriogaethau o dan gais neu orchymyn i aros yn eu cartrefi gan eu llywodraeth.[2] Argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfnodau clo a chyrffyw yw y dylent fod yn fesurau byr dymor i ail-drefnu, ailgynnull, ailgydbwyso adnoddau, a diogelu gweithwyr iechyd sydd wedi'u llethu. Er mwyn cael cydbwysedd rhwng cyfyngiadau a bywyd arferol, dylai ymatebion hirdymor i'r pandemig gynnwys hylendid personol llym, olrhain cysylltiadau effeithiol, a hunanynysu pan yn sâl.[3]

  1. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52967541
  2. Sandford, Alasdair (2020-04-02). "Coronavirus: Half of humanity on lockdown in 90 countries". euronews (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-26.
  3. "Has the WHO backflipped on its own lockdown advice?". www.abc.net.au (yn Saesneg). 2020-10-12. Cyrchwyd 2021-01-26.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search